Wrth dynnu sylw at yr angen i ddiogelu ffermydd teuluol mewn cymunedau Cymraeg, mae'r Aelod o’r Senedd dros Aberconwy - Janet Finch-Saunders AS - wedi galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu Comisiwn Pontio Cyfiawn i sicrhau nad yw'r "baich datgarboneiddio" yn disgyn yn anghyfartal ar gymunedau gwledig.
Yn siarad ar ôl ei chwestiwn i Weinidog y Gymraeg Llywodraeth Cymru, dywedodd Janet:
“Fis diwethaf, dywedodd Llywodraeth Cymru wrth Aelodau'r Senedd na ddylai cyrraedd targedau creu coetiroedd, mewn ymdrech i fynd i'r afael â Newid Hinsawdd, effeithio ar gymunedau na newid y math o dirfeddianwyr gan ymrwymo i weithredu pe bai problem. Mae'r amser hwn bellach wedi cyrraedd.
“Rwy'n ymwybodol bod Undeb Amaethwyr Cymru yn derbyn adroddiadau bron yn wythnosol am ffermydd cyfan neu barseli o dir sy'n cael eu prynu gan unigolion a busnesau o'r tu allan i Gymru at ddibenion plannu coed, gan gynnwys adroddiad diweddar ar fferm fawr sydd wedi'i chymryd drosodd gan British Aerospace.
“Dyna pam yr hoffwn weld Llywodraeth Cymru yn sefydlu Comisiwn Pontio Cyfiawn i sicrhau nad yw'r baich o ddatgarboneiddio yn disgyn yn anghyfartal ar ein cymunedau gwledig ac yn cael effaith negyddol ar yr iaith Gymraeg sydd, yn hanesyddol, wedi ffynnu yng nghefn gwlad Cymru.”
DIWEDD
Nodiadau i Olygyddion:
- I gael gwybod mwy am waith Janet yn hyrwyddo'r angen i blannu'r goeden iawn yn y lle iawn, cliciwch yma.
Ffotograff: gan Gabriel Jimenez ar Unsplash