Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • About/Am Janet
  • News/Newyddion
  • Contributions/Cyfraniadau
  • Campaigns/Ymgyrchoedd
  • Contact/Manylion Cyswllt
  • Vote from home / Pleidleisiwch o adra
  • Save Welsh Farming / Achub Amaeth Cymru
Site logo

AS Aberconwy yn galw am adolygu canllawiau a chymorth a roddir i feddygon teulu

  • Tweet
Tuesday, 28 September, 2021
  • Local News

Mewn her berthnasol i Lywodraeth Cymru, mae Janet Finch-Saunders AS – Aelod o’r Senedd dros Aberconwy – wedi herio’r Prif Weinidog i adolygu’r canllawiau a’r cymorth sydd ar gael i’n meddygon teulu er mwyn galluogi rhyngwynebu yn haws ac yn well gyda chleifion.

Daw hyn wrth i etholwyr barhau i rannu pryderon am eu gallu i drefnu apwyntiadau wyneb yn wyneb. Mae’r Cyngor Iechyd Cymuned wedi dweud wrth BBC News Wales bod llawer o gleifion wedi cael eu gadael yn aros am hyd at awr ar y ffôn i siarad gyda rhywun. Mae meddygon teulu lleol hefyd wedi rhannu eu profiadau o anobaith a rhwystredigaeth gyda’n system iechyd.

Yn rhoi sylw ar ôl ei chwestiwn, dywedodd Janet:

“Mae nifer cynyddol o etholwyr wedi cysylltu â fy swyddfa i fynegi pryderon am eu gallu i sicrhau apwyntiad wyneb yn wyneb gyda meddygon teulu lleol, gyda rhai yn cael clywed dro ar ôl tro bod pob apwyntiad yn eu practis wedi’u harchebu’n barod.

“Mae’r straen ar ein gwasanaethau Gofal Sylfaenol yn achos pryder mawr hefyd. Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi amcangyfrif bod y galw am apwyntiadau yn y practisau y mae’n eu rheoli wedi cynyddu hyd at 20%. Mae hyn yn arwain at broblemau mwy amlwg o ran lles staff.

“O ystyried bod Age Cymru wedi canfod bod bron i naw o bob deg o bobl 75 oed a hŷn wedi gweld eu meddygon teulu yn ystod 2017-18, mae’r mesurau a ddeddfwyd gan Lywodraeth Cymru yn ystod y pandemig bellach yn gweithredu fel rhwystr i’r rhai sydd angen cymorth meddygol brys.

“Ni fydd pawb yn gallu neu’n fodlon ystyried apwyntiad ar-lein neu dros y ffôn ar gyfer problemau iechyd personol preifat a sensitif. Mae’n hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn adolygu’r canllawiau a’r cymorth sydd ar gael i’n meddygon teulu er mwyn eu galluogi i sicrhau rhyngwynebu llawer haws a gwell gyda chleifion.”

DIWEDD 

Ffoto: gan y Sefydliad Canser Cenedlaethol ar Unsplash

You may also be interested in

J

Police Leaders Call for Non-Hate Crime Laws to be Scrapped

Tuesday, 23 December, 2025
Police leaders have called for non-hate crime laws to be scrapped and replaced with a more common-sense approach. Non-hate crime incidents are defined as behaviour motivated by hostility or prejudice but which does not constitute a criminal offence.

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • European News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Speeches in Parliament
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders MS/AS
  • Polisi Preifatrwydd a Diogelu Data / Data Protection and Privacy Policy
Promoted by Janet Finch-Saunders of 29 Madoc Street, Llandudno, Conwy, LL30 2TL | Hyrwyddwyd gan Janet Finch-Saunders, 29 Stryd Madog, Llandudno, Conwy, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus

Copyright 2025 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree