Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • About/Am Janet
  • News/Newyddion
  • Contributions/Cyfraniadau
  • Campaigns/Ymgyrchoedd
  • Contact/Manylion Cyswllt
  • Vote from home / Pleidleisiwch o adra
  • Save Welsh Farming / Achub Amaeth Cymru
Site logo

AS Aberconwy yn cynnig eglurder i gleifion deintyddol y Gogledd

  • Tweet
Wednesday, 25 November, 2020
  • Local News

Yn dilyn y newyddion diweddar y bydd dwy ddeintyddfa yn y Gogledd yn cau, heddiw (25 Tachwedd), mae Janet Finch-Saunders AS - Aelod o’r Senedd dros Aberconwy - wedi croesawu cadarnhad y bydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn mynd ati i geisio llenwi bwlch yn y ddarpariaeth sydd wedi’i cholli, gan roi addewid i fonitro’r sefyllfa hon sy’n datblygu.

Mewn ymateb i’r Cwestiwn Ysgrifenedig brys, ysgrifennodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol:

“O ran cau’r ddau bractis hyn, mae'n bwysig nodi bod cyllid ar gyfer gwasanaethau a gollir yn aros o fewn y Bwrdd Iechyd. Rwy’n disgwyl i’r Bwrdd Iechyd weithio i lenwi’r bwlch sydd wedi codi yn sgil colli’r ddarpariaeth ar unwaith a bod â mesurau interim ar waith i gynnig parhad gofal i gleifion a allai golli mynediad yn sgil y cau hwn.”

Dywed Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr bod mwy nag 8,000 o gleifion y GIG wedi eu trin ym mhractis BUPA Bae Colwyn ac ychydig dros 4,200 yng Nghaernarfon yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf. Mae swyddogion y diwydiant bellach yn rhybuddio y gallai'r ôl-groniad presennol fod yn hel llawer o broblemau i’r dyfodol, wrth i ddarparwyr gwasanaethau yn canolbwyntio ar achosion brys ac argyfyngau.

Dyma oedd gan Janet i’w ddweud:

“Rwy’n croesawu’r eglurder y mae fy Nghwestiwn Ysgrifenedig brys wedi'i annog, gyda chadarnhad y bydd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn cael eu cynghori i roi blaenoriaeth i weithio i lenwi’r bwlch sydd wedi ymddangos yn sgil colli’r ddarpariaeth, a bod yn rhaid cyflwyno mesurau dros dro i gynnal parhad gofal y cleifion hynny a allai golli mynediad yn dilyn cau'r practis.

"Ond, fel rydw i wedi’i ddweud dro ar ôl tro, ni ellir gadael dyfodol gofal deintyddol o leiaf 12,000 o gleifion ledled y Gogledd yn llwyr yn nwylo BIPBC. Er bod eu Huned Addysgu Deintyddol arfaethedig ym Mangor yn gam i'r cyfeiriad cywir, mae Llywodraeth Cymru wedi anwybyddu’r sector hwn yn llawer rhy hir.

“Mae’r Gweinidog wedi tynnu ei lygad oddi ar y bêl, gydag amseroedd aros am driniaethau deintyddol yn cwympo ledled Cymru o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol. Ym mis Medi 2020, gwelwyd 33% o gleifion o fewn 26 wythnos, o'i gymharu â 70.5% ym mis Medi 2019. Mae'n amlwg nad yw’r gwasanaeth iechyd hanfodol hwn yn flaenoriaeth iddo.

"Byddaf yn parhau i fonitro'r sefyllfa hon, gan ddiweddaru etholwyr a chynnal cyfarfodydd gyda swyddogion o Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Fodd bynnag, rwy’n annog Llywodraeth Cymru i adolygu ei hagwedd tuag at y sector hwn wrth i swyddogion y diwydiant barhau i rybuddio y gallai'r ôl-groniad presennol fod yn hel mwy o broblemau i’r dyfodol. "

DIWEDD

Ffoto: Ibrahim Boran ar Unsplash

You may also be interested in

J

Police Leaders Call for Non-Hate Crime Laws to be Scrapped

Tuesday, 23 December, 2025
Police leaders have called for non-hate crime laws to be scrapped and replaced with a more common-sense approach. Non-hate crime incidents are defined as behaviour motivated by hostility or prejudice but which does not constitute a criminal offence.

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • European News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Speeches in Parliament
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders MS/AS
  • Polisi Preifatrwydd a Diogelu Data / Data Protection and Privacy Policy
Promoted by Janet Finch-Saunders of 29 Madoc Street, Llandudno, Conwy, LL30 2TL | Hyrwyddwyd gan Janet Finch-Saunders, 29 Stryd Madog, Llandudno, Conwy, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus

Copyright 2025 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree