Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • About/Am Janet
  • News/Newyddion
  • Contributions/Cyfraniadau
  • Campaigns/Ymgyrchoedd
  • Contact/Manylion Cyswllt
  • Vote from home / Pleidleisiwch o adra
  • Save Welsh Farming / Achub Amaeth Cymru
Site logo

AS Aberconwy yn cynnig cyfnodau clo lleol iawn seiliedig ar ddata yn sgil y cynnydd mewn achosion lleol

  • Tweet
Wednesday, 23 September, 2020
  • Local News

Heddiw (23 Medi), mae Janet Finch-Saunders AS – Aelod o’r Senedd dros Aberconwy – wedi sôn am ei phryder am y cynnydd mewn achosion o COVID-19 ledled y Gogledd, gan ofyn i Lywodraeth Cymru hwyluso’r profion sydd ar gael i gefnogi cynigion am gyfnodau clo lleol iawn.

Daw ei phryderon wrth i ni glywed bod awdurdodau lleol ledled y rhanbarth wedi’u galw i gyfarfod tîm rheoli digwyddiadau gyda Llywodraeth Cymru i bwyso a mesur y sefyllfa iechyd gyhoeddus bresennol. Yn ôl ystadegau a gyhoeddwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae Conwy wedi adrodd 21 achos newydd yn y saith niwrnod hyd at 21 Medi.

Gan roi sylwadau ar gynigion am gyfnodau clo lleol iawn, dywedodd Janet:

“Rwy’n bryderus iawn o glywed am y cynnydd diweddaraf mewn achosion o’r Coronafeirws ledled y Gogledd, gyda chyfraddau heintio mewn sawl awdurdod lleol yn destun pryder.

“Gyda chyfyngiadau pellach yn ymddangos yn anochel bellach, rwy’n galw ar Lywodraeth Cymru i wella nifer y profion sydd ar gael ledled y rhanbarth ar unwaith er mwyn gallu ystyried y data yma cyn penderfynu ar gyfnodau clo lleol iawn.

"Mae’n hollbwysig bod y mesurau a gymerir i ddiogelu’r cyhoedd yn gymesur â’r risg. Mae’n rhaid ystyried y syniad o gyfyngiadau lleol iawn er mwyn sicrhau bod cyn lleied o economi’r Gogledd â phosibl yn cau yn ystod misoedd masnach anodd y gaeaf.

“Rydw i hefyd wedi ysgrifennu’n ddiweddar at Weinidog Iechyd Cymru i ymbil am newid i’r system archebu ar-lein er mwyn gallu cynnig mwy o eglurder i rieni sy’n bryderus wrth i’r flwyddyn ysgol newydd ddechrau. Roedd hyn yn cynnwys cynigion i bob slot ar safleoedd a weinyddir gan Fwrdd Iechyd Cymru fod ar gael i’w harchebu ar ddechrau’r dydd.

“Allwn ni ddim gwaethygu’r argyfwng iechyd cyhoeddus hwn gyda difrod economaidd pellach, sy’n bygwth swyddi a bywoliaethau. Dull lleol iawn, seiliedig ar ddata yw’r ffordd ddoethaf o fynd o’i chwmpas hi gan ei fod hefyd yn ystyried effaith cyfyngiadau posibl ar iechyd meddwl ac ar lesiant cymdeithasol.”

DIWEDD

You may also be interested in

J

MS Calls for Residents’ Voices to Be Heard Over Proposed Wind Turbine Sites

Friday, 17 July, 2026
Janet Finch-Saunders MS has written to the Cabinet Minister for Enterprise, Connectivity and Energy, Adam Price MS, calling for the concerns of local residents to be fully considered following proposals to construct wind turbines on Mynydd Tryfan. The proposed development has generated signific

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • European News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Speeches in Parliament
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Bangor Conwy Môn

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders MS/AS
  • Polisi Preifatrwydd a Diogelu Data / Data Protection and Privacy Policy
Promoted by Janet Finch-Saunders of 29 Madoc Street, Llandudno, Conwy, LL30 2TL | Hyrwyddwyd gan Janet Finch-Saunders, 29 Stryd Madog, Llandudno, Conwy, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus

Copyright 2026 Janet Finch-Saunders MS/AS. All rights reserved.
Powered by Bluetree