Mae Janet Finch-Saunders AS, Aelod o’r Senedd dros Aberconwy, wedi erfyn am eglurder gan Lywodraeth Cymru ynghylch pa drafodaethau y mae wedi’u cynnal gyda Llywodraeth y DU i fynd i’r afael â phryderon ynghylch troseddau cyllyll. Daw’r ymyrraeth yn sgil cyhoeddi hanes dychrynllyd ymosodiad cyllell diweddar yn Llandudno a’r Aelod yn adrodd am ddigwyddiad yng Nghyffordd Llandudno sydd wedi cael ei rannu ar y cyfryngau cymdeithasol.
Mewn Cwestiwn Ysgrifenedig i’r Cwnsel Cyffredinol, gofynnodd Janet:
“Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda swyddogion y gyfraith yn Llywodraeth y DU i sicrhau bod gan heddluoedd ledled Cymru y pwerau a'r cyllid angenrheidiol i wynebu troseddau cyllyll?”
Cofnododd Heddlu Gogledd Cymru 277 trosedd gyda chyllyll neu arfau miniog yn 2019-20 , yn ôl data’r Swyddfa Ystadegau Gwladol. Roedd hynny’n fwy na dwbl yr 101 a gofnodwyd yn 2012-13, pan gyhoeddwyd cofnodion y gellid eu cymharu gyntaf. Dywedodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol fod cynnydd yn debygol o adlewyrchu cynnydd gwirioneddol yn nifer y troseddau cyllyll ac arfau miniog yn genedlaethol, er gwaetha’r gwelliannau mewn dulliau cofnodi troseddau.
Meddai Janet:
“Mae’r Gogledd yn parhau yn un o rannau mwyaf diogel y DU, ond yn anffodus mae achosion o droseddau cyllyll yn digwydd yn yr ardal. Gellir teimlo effaith y troseddau hyn i’r byw, gyda llawer o ddioddefwyr yn gorfod delio â chanlyniadau emosiynol bygythiadau neu ymosodiadau am flynyddoedd ar ôl i’r peth ddigwydd.
“O ystyried fod gwybodaeth ddiweddar yn y rhanbarth wedi cefnogi awdurdodi maes chwilio Adran 60, ac ar ôl clywed pryderon gan etholwyr lleol, rwyf wedi erfyn ar y Cwnsler Cyffredinol i gynnal trafodaethau â swyddogion y gyfraith yn Llywodraeth y DU er mwyn sicrhau bod y pwerau a’r cymorth cyllid gofynnol gan ein hymgyrchoedd plismona lleol.
“Ond er y gall plismona helpu i orfodi’r gyfraith a chadw pobl yn ddiogel, mae uwch swyddogion wedi dweud erioed mai’r gymuned yn gweithio gyda’i gilydd a fydd yn gwneud y gwahaniaeth yn y pen draw. Gall sgyrsiau gyda ffrindiau neu deuluoedd ynghylch troseddau cyllyll a’u heffeithiau helpu i sicrhau niwed.
“Felly, os ydych chi’n bryderus am rywun rydych chi’n eu ’nabod sy’n cario cyllell, eisiau siarad gyda rhywun am droseddau cyllyll neu ofyn am gyngor, ffoniwch 101. Atgoffir preswylwyr hefyd i ffonio 999 mewn argyfwng.
Yn ôl Heddlu Gogledd Cymru, gall cario cyllell mewn man cyhoeddus arwain at ddedfryd o hyd at bedair blynedd o garchar, yn dibynnu ar yr amgylchiadau, ac mae dedfryd o chwe mis o leiaf i rywun sy’n cael ei ddal yn cario cyllell fwy nag unwaith.
DIWEDD
Ffoto: Janet Finch-Saunders AS