Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • About/Am Janet
  • News/Newyddion
  • Contributions/Cyfraniadau
  • Campaigns/Ymgyrchoedd
  • Contact/Manylion Cyswllt
  • Vote from home / Pleidleisiwch o adra
  • Save Welsh Farming / Achub Amaeth Cymru
Site logo

AS Aberconwy yn cymeradwyo ymgyrch Cadwch Curiadau i ymarfer CPR yn y cartref

  • Tweet
Wednesday, 17 February, 2021
  • Local News

Heddiw (17 Chwefror), mae Janet Finch-Saunders, Aelod o'r Senedd dros Aberconwy, wedi cymeradwyo ymgyrch 'Cadwch Curiadau' gan fenter Awyr Las sy'n annog preswylwyr i ymarfer CPR yn niogelwch eu cartrefi eu hunain, drwy ddefnyddio eitemau cyffredin y cartref fel peli, clustogau a thedis. 

Mae CPR yn driniaeth frys cymorth cyntaf sy'n golygu bod rhywun yn pwyso i fyny ac i lawr ar frest unigolyn sydd wedi cael pwl. Ataliad y galon yw pan fydd y galon yn stopio curo. Yn aml, mae CPR a'r defnydd o ddiffibriliwr yn dyblu'r siawns o oroesi. 

Gan egluro'r angen i ymarfer CPR, dywedodd Janet:  

“Dylai pawb yng Nghymru ddysgu sgiliau CPR er mwyn sicrhau eu bod yn hyderus o'r camau sydd  angen iddyn nhw eu cymryd pan fo rhywun yn cael ataliad y galon. Drwy dreulio ychydig funudau'n dysgu rhai sgiliau CPR sylfaenol, gallwch gynyddu siawns rhywun o oroesi, mewn sefyllfa a all fod yn anodd iawn a llawn straen. 

Awgryma data cynnar, yn rhanbarth BIPBC, nad yw 75% o bobl sydd wedi cael ataliad y galon yn cael CPR cyn i gymorth meddygol gyrraedd. Bob blwyddyn yng Nghymru, bydd dros 6,000 o bobl yn cael ataliad sydyn y galon yn y gymuned a bydd tua 80% o'r rheiny'n digwydd yn y cartref. 

Mae'n bwysig deall y camau sy'n gysylltiedig â CPR, a elwir yn aml yn Gadwyn Oroesi. Mae'r 'Gadwyn Oroesi' yn disgrifio'r elfennau hanfodol sy'n gallu achub bywyd pan fo rhywun yn cael ataliad y galon yn y gymuned. 

Wrth gymeradwyo'r fenter i ymarfer yn y cartref, dywedodd Janet:  

“Mae'r ymgyrch hon gan Awyr Las, sy'n hyrwyddo’r defnydd o eitemau bob dydd y cartref i hyfforddi a diweddaru ein sgiliau CPR, yn sicrhau bod gennym gymuned o achubwyr bywyd hyfforddedig a hyderus. Yn rhai o leoliadau mwyaf gwledig Aberconwy, bydd hyn yn achub bywydau, gan gynnwys bywydau ein hanwyliaid agosaf. 

“Mae pob eiliad yn hollbwysig pan fo rhywun yn cael ataliad y galon. Bydd mynd ati'n rheolaidd i ddefnyddio tedi neu bêl i ymarfer CPR yn golygu y bydd gan bob un ohonon ni yr hyder i gamu i 'r adwy a chynorthwyo'r rhai mewn angen. Wedi'r cyfan, mewn sefyllfa ddybryd o’r fath, mae unrhyw CPR yn well na dim CPR.”

Diwedd 

Nodiadau i Olygyddion:  

  • Mae elusen Awyr Las, GIG Gogledd Cymru, yn darparu gwasanaethau ychwanegol sy’n mynd y tu hwnt i beth mae'r GIG yn ei ariannu. Mae gan y rhan fwyaf o wardiau ysbytai, adrannau a gwasanaethau gofal iechyd cymunedol arian penodol fel rhan o'r elusen. 
  • Gallwch gael rhagor o wybodaeth drwy ymweld â: https://awyrlas.org.uk/cy/about-keep-the-beats  
  • I ddysgu mwy am y Gadwyn Oroesi, ewch i: https://llyw.cymru/achub-bywyd-cymru

Llun: Oxana Lyashenko ar Unsplash

You may also be interested in

Questions to the Cabinet Secretary for Housing and Local Government

Wednesday, 28 January, 2026
Questions to the Cabinet Secretary for Housing and Local Government

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • European News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Speeches in Parliament
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders MS/AS
  • Polisi Preifatrwydd a Diogelu Data / Data Protection and Privacy Policy
Promoted by Janet Finch-Saunders of 29 Madoc Street, Llandudno, Conwy, LL30 2TL | Hyrwyddwyd gan Janet Finch-Saunders, 29 Stryd Madog, Llandudno, Conwy, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus

Copyright 2026 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree