Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • About/Am Janet
  • News/Newyddion
  • Contributions/Cyfraniadau
  • Campaigns/Ymgyrchoedd
  • Contact/Manylion Cyswllt
  • Vote from home / Pleidleisiwch o adra
  • Save Welsh Farming / Achub Amaeth Cymru
Site logo

AS Aberconwy yn croesawu tro pedol ar raddau

  • Tweet
Monday, 17 August, 2020
  • Local News
Janet Finch-Saunders MS

Mae Janet Finch-Saunders, AS Aelod o Senedd Cymru Aberconwy wedi mynd ati heddiw (17 Awst) i groesawu tro pedol gan Lywodraeth Cymru a fydd yn golygu y bydd myfyrwyr Aberconwy yn cael y graddau a ragfynegwyd gan eu hathrawon.

Mae ei sylwadau’n dilyn llythyr brys cynharach i Weinidog Addysg Llywodraeth Cymru ar ran myfyrwyr lleol, lle’r oedd yr Aelod yn galw am i’r newid hwnnw gael ei roi ar waith. Rhybuddiodd am oblygiadau difrifol y system raddio a oedd wedi gwneud i fyfyrwyr Aberconwy ddigalonni’n llwyr, 'gan deimlo na allen nhw wneud cais i’r prifysgolion gorau gan nad oedd ganddyn nhw’r graddau uchel disgwyliedig.'

Gan gyfeirio ar y newid mewn polisi, dywedodd Janet:

"Rydw i’n croesawu’r newid angenrheidiol hwn mewn polisi. Er fy mod yn gwerthfawrogi’r amgylchiadau digynsail sydd wedi arwain at y ffaith bod yr holl arholiadau wedi’u canslo eleni, yn anffodus fe wnaeth y dull a ddefnyddiwyd i ddatrys y cyfyng gyngor hwn achosi pryder yn ogystal ag arwain at oblygiadau difrifol iawn o ran dyfodol ein myfyrwyr gan eu digalonni’n llwyr.

"Mae’n amlwg na ellid caniatáu i bolisi Llywodraeth Cymru barhau. Roedd sawl pennaeth lleol wedi cysylltu â’m swyddfa i dynnu sylw at eu pryderon - pryderon dilys iawn – a bod y system wedi gosod myfyrwyr sy’n cyflawni orau mewn ysgolion sy’n cyflawni isaf yn hanesyddol gan eu rhoi dan anfantais.

"Bydd y broses o ddyfarnu graddau a ragfynegwyd gan athrawon yn mynd ymhell tuag at roi hwb i ysbryd y myfyrwyr, a bydd yn dangos bod gan bawb hyder yng ngweithwyr proffesiynol y byd addysg a luniodd y marciau hyn gyntaf, sy’n seiliedig ar dystiolaeth ystafell ddosbarth o’r llynedd.

"Fodd bynnag, mae’n peri tristwch i mi, bod y newid wedi dod yn rhy hwyr i rai disgyblion. Mae rhiant eisoes wedi rhoi gwybod i mi fod ei blentyn wedi colli lle i astudio meddygaeth, oherwydd doedd ganddo fo ddim y graddau gofynnol ddydd Iau diwethaf, ac erbyn heddiw mae’r graddau hynny ganddo."

DIWEDD

You may also be interested in

Our Health Service Needs Urgent Intervention

Tuesday, 24 March, 2026
Our Health Service needs urgent intervention.

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • European News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Speeches in Parliament
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS ABERCONWY

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders MS/AS
  • Polisi Preifatrwydd a Diogelu Data / Data Protection and Privacy Policy
Promoted by Janet Finch-Saunders of 29 Madoc Street, Llandudno, Conwy, LL30 2TL | Hyrwyddwyd gan Janet Finch-Saunders, 29 Stryd Madog, Llandudno, Conwy, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus

Copyright 2026 Janet Finch-Saunders MS/AS. All rights reserved.
Powered by Bluetree