Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • About/Am Janet
  • News/Newyddion
  • Contributions/Cyfraniadau
  • Campaigns/Ymgyrchoedd
  • Contact/Manylion Cyswllt
  • Vote from home / Pleidleisiwch o adra
  • Save Welsh Farming / Achub Amaeth Cymru
Site logo

AS Aberconwy yn croesawu cynigion dylunio newydd i wella diogelwch croesfannau Glan Conwy

  • Tweet
Tuesday, 12 January, 2021
  • Local News

Fel rhan o'i hymgyrch hirsefydlog i wella diogelwch ffyrdd y fro, mae Janet Finch-Saunders AS Aberconwy heddiw (12 Ionawr) yn croesawu cynigion i adfer lled y llwybr troed blaenorol oedd yn arwain at groesfan A470 Glan Conwy, fel bod ceir sydd wedi'u parcio yn glir o'r llain welededd.

Daw'r cynllun newydd yn dilyn pryderon pobl leol am oryrru a gwelededd. Mae'n ganlyniad proses barhaus yr Aelod o ddeisebu ar y mater hwn, gyda swyddogion Llywodraeth Cymru a chynrychiolwyr yr Asiant Cefnffyrdd yn cyfarfod ar y safle yn ddiweddar i drafod opsiynau gwella. Fel mesur cychwynnol a dros dro, mae arwyddion ychwanegol wedi'u gosod ar ffyrdd sy'n nesáu at y groesfan.

Wrth sôn am y cam cadarnhaol ymlaen, dywedodd Janet:

“Yn dilyn pryderon a godwyd am ddiogelwch y groesfan sebra yng Nglan Conwy, roeddwn yn falch iawn o gyflwyno sylwadau brys i Lywodraeth Cymru a arweiniodd at gyflwyno arwyddion dros dro.

“Fe wnaeth swyddogion hefyd addo y byddai'n datblygu cynllun newydd o'r ffordd ddynesu a'r cyffiniau er mwyn gwella amlygrwydd i'r groesfan. Rwy'n falch iawn bod y dyluniad hwn bellach wedi'i gwblhau.

“Mae'r cynigion yn cynnwys cynlluniau i adfer lled blaenorol y llwybr troed sy'n arwain at groesfan A470 Glan Conwy, fel bod ceir wedi'u parcio yn glir o'r llain welededd. Mae hefyd yn cynnwys adleoli cylchoedd beicio yn ofalus er mwyn gwarchod pawb sy'n defnyddio'r ffordd.

“Ar ben hynny, mae'r cynlluniau newydd yn cynnwys peintio marciau 'ARAF/SLOW' newydd ar fatiau coch wrth i chi nesáu at y gyffordd, yn ogystal ag arwyneb llwydfelyn ffrithiant uchel ac ailbeintio'r marciau igam-ogam. Gyda'i gilydd, dylai'r rhagofalon hyn helpu gyrwyr i arafu mewn da bryd.

“Rwy'n parhau i ymrwymo i ddod o hyd i atebion synhwyrol i faterion traffig lleol sydd o fudd i ddefnyddwyr y ffordd a cherddwyr. Mae'r llwyddiant diweddar hwn yn dangos grym ymgyrchoedd lleol, gan sicrhau bod lleisiau a phryderon trigolion yn cael eu clywed gan y weinyddiaeth ym Mae Caerdydd.”

DIWEDD

 

You may also be interested in

J

Police Leaders Call for Non-Hate Crime Laws to be Scrapped

Tuesday, 23 December, 2025
Police leaders have called for non-hate crime laws to be scrapped and replaced with a more common-sense approach. Non-hate crime incidents are defined as behaviour motivated by hostility or prejudice but which does not constitute a criminal offence.

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • European News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Speeches in Parliament
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders MS/AS
  • Polisi Preifatrwydd a Diogelu Data / Data Protection and Privacy Policy
Promoted by Janet Finch-Saunders of 29 Madoc Street, Llandudno, Conwy, LL30 2TL | Hyrwyddwyd gan Janet Finch-Saunders, 29 Stryd Madog, Llandudno, Conwy, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus

Copyright 2025 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree