Heddiw (02 Hydref) mae’r Aelod o’r Senedd dros Aberconwy – Janet Finch-Saunders AS – wedi rhoi ei chefnogaeth i ymgyrch leol i achub Llyn Anafon, yn dilyn penderfyniad gan Dŵr Cymru i ddraenio’r gronfa ddŵr a gostwng ei lefel o 4.5 troedfedd dros y degawd nesaf.
Mae’r safle, sy’n swatio ym mynyddoedd y Carneddau, yn encil poblogaidd i bysgotwyr lleol, picnicwyr, cerddwyr a beicwyr mynydd. Mae pryder ymhlith trigolion y bydd brithyllod cynhenid y llyn yn cael eu disodli oherwydd y draenio. Mae’r gronfa ddŵr hefyd yn gartref i blanhigion ac anifeiliaid sydd fwy na thebyg yn unigryw yn y Deyrnas Unedig, yn ôl arolwg yn 2016 gan Cyfoeth Naturiol Cymru <https://cdn.naturalresources.wales/media/685948/eng-report-204-ecologic…;.
Wrth ganmol gwaith trigolion lleol i achub Llyn Anafon, dywedodd Janet:
“Mae gan Lyn Anafon hanes cyfoethog ac mae’n annwyl iawn i bobl Llanfairfechan, Dwygyfylchi a Phenmaenmawr. Mae’r gronfa ddŵr, a adeiladwyd yn wreiddiol yn 1929, wedi’i gadael i ddychwelyd i’w chyflwr gwyllt ers iddi gael ei datgomisiynu, ac mae hynny wedi caniatáu i fywyd gwyllt a phlanhigion ffynnu.
“Yn ogystal â phoblogaeth lewyrchus o frithyllod, mae’r darn hynod hwn o dreftadaeth hanes naturiol yn gartref i boblogaeth fechan o ddyfrgwn. Mae’r llyn hefyd wedi’i amgylchynu gan gasgliad unigryw o 21 o rywogaethau o blanhigion, sy’n cynnal poblogaethau o ddau hybrid Potamogeton llydanddail prin sy’n cael eu bwydo gan y dŵr.
“Ar ôl i ddraenio achosi problemau i ddefaid a merlod gwyllt yn 2008, mae preswylwyr wedi trafod eu pryderon am effaith draenio ar y tir fferm o’i gwmpas gyda mi. Rwy’n hynod bryderus nad yw Dŵr Cymru wedi rhoi ystyriaeth briodol i bryderon a chynigion trigolion a rhanddeiliaid.
“O ystyried hynny, rwyf heddiw yn ymuno ag ymgyrch leol sy’n gofyn i Dŵr Cymru weithio gyda phentrefwyr Llanfairfechan i sicrhau bod y llyn hwn yn cael ei gadw a’i ddiogelu ar gyfer y dyfodol. Mae cynigion i sefydlu ymddiriedolaeth nid yn unig yn synhwyrol, ond byddent yn rhoi grym yn nwylo gwir geidwaid y tir hwn.”
DIWEDD