Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • About/Am Janet
  • News/Newyddion
  • Contributions/Cyfraniadau
  • Campaigns/Ymgyrchoedd
  • Contact/Manylion Cyswllt
  • Vote from home / Pleidleisiwch o adra
  • Save Welsh Farming / Achub Amaeth Cymru
Site logo

AS Aberconwy yn canmol Clwb Rotari Dyffryn Conwy am waith cymorth gydol y pandemig

  • Tweet
Friday, 16 October, 2020
  • Local News
Janet Finch-Saunders MS

Heddiw (16 Hydref), mae Janet Finch-Saunders AS - Aelod o’r Senedd dros Aberconwy - wedi siarad am ei chefnogaeth i waith Clwb Rotari Dyffryn Conwy, sy’n darparu gwasanaeth banc bwyd law yn llaw â Golygfa Gwydyr ar hyn o bryd.

Mar Clwb Rotari Dyffryn Conwy yn gymysgedd bywiog o 18 aelod a sefydlwyd ym 1946. Mae’r aelodau’n cyfrannu mewn sawl ffordd, gan helpu’r ardal i fod yn lle arbennig iawn i fyw, gweithio neu ymddeol. Mae hyn yn cynnwys gwaith pwysig y Clwb wrth gefnogi hosbisau lleol, grwpiau lleol a phrosiectau cymunedol.

Gan roi sylwadau ar eu gwaith, dywedodd Janet:

“Mae’r Rotari yn cynnig cyfleoedd heb eu hail i unigolion gysylltu â phobl o bob cefndir a gwasanaethu’r gymuned, yn lleol ac yn fyd-eang. Mae wedi helpu preswylwyr sydd â diddordeb i ddysgu sut i gymell, dylanwadu ac arwain eraill.

“Er bod Clwb Dyffryn Conwy wedi gorfod canslo llawer o’i ddigwyddiadau blynyddol eiconig eleni, o’r sêl cist car Gŵyl Banc i’r arddangosfa dân gwyllt fis Tachwedd, mae aelodau lleol wedi dal ati i roi o’u hamser i gefnogi eu cyd-drigolion yn Nyffryn Conwy.

“Yn fwy diweddar, maen nhw wedi dechrau gweithio gyda Golygfa Gwydyr i redeg banc bwyd ar gyfer trigolion Llanrwst a Chonwy wledig, sydd wedi wynebu caledi bwyd yn sgil y pandemig Coronafeirws. Os ydych chi’n teimlo y gallech chi elwa ar y cynnig hwn, cymerwch gip ar raglen Facebook y grŵp am y manylion cyswllt angenrheidiol.

“Rwyf am ganmol y gwaith rhagorol ac anhunanol hwn. Gyda dim ond 18 aelod, mae Clwb Rotari Dyffryn Conwy yn dweud wrtha’i eu bod wastad yn chwilio am wirfoddolwyr i helpu gyda’u digwyddiadau. Maen nhw wastad yn addo croeso cynnes, a phwy a ŵyr, efallai yr hoffech chi fod yn aelod hirdymor hefyd!”

DIWEDD

You may also be interested in

J

MS Calls out Dwr Cymru on Higher cost Bills

Friday, 30 January, 2026
From April 2026 the average Dŵr Cymru Welsh Water household bill will increase by 4.8%, rising from £652 to £683 in 2026–27. The reason behind this has been to support a significant programme of investment.

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • European News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Speeches in Parliament
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders MS/AS
  • Polisi Preifatrwydd a Diogelu Data / Data Protection and Privacy Policy
Promoted by Janet Finch-Saunders of 29 Madoc Street, Llandudno, Conwy, LL30 2TL | Hyrwyddwyd gan Janet Finch-Saunders, 29 Stryd Madog, Llandudno, Conwy, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus

Copyright 2026 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree