Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • About/Am Janet
  • News/Newyddion
  • Contributions/Cyfraniadau
  • Campaigns/Ymgyrchoedd
  • Contact/Manylion Cyswllt
  • Vote from home / Pleidleisiwch o adra
  • Save Welsh Farming / Achub Amaeth Cymru
Site logo

AS Aberconwy yn arwain y teyrngedau i Wylwyr y Glannau ar ddau ganmlwyddiant y gwasanaeth

  • Tweet
Wednesday, 19 January, 2022
  • Local News
Janet

Mewn datganiad i’r Senedd, mae Janet Finch-Saunders AS - Aelod o’r Senedd dros Aberconwy - wedi nodi dau ganmlwyddiant Gwylwyr y Glannau Ei Mawrhydi sy’n gweithio dros ein cymunedau arfordirol, gan dalu teyrnged i’w hymdrechion wrth chwilio am y cwch Nicola Faith.

Ers ei sefydlu ym 1822 i fynd i’r afael â masnachu anghyfreithlon mewn nwyddau heb dalu trethi, mae’r gwasanaeth wedi esblygu yn sefydliad Prydeinig sy’n sicrhau diogelwch pobl ar lannau’r DU.

Yn gweithio 24 awr y dydd, yn 2022, mae canolfannau gweithrediadau Gwylwyr y Glannau yn cydlynu ymatebion i sefyllfaoedd brys ar yr arfordir gan alw ar 310 o Dimau Achub Gwylwyr y Glannau - sy’n cynnwys 3500 o wirfoddolwyr ymroddedig - a defnyddio 10 o ganolfannau hofrenyddion chwilio ac achub.

Yn dathlu Gwylwyr y Glannau, dywedodd Janet:

“Ar ddau ganmlwyddiant y gwasanaeth hwn, roeddwn i’n falch iawn o gael rhoi datganiad i’r Senedd yn diolch yn benodol i Wylwyr y Glannau Llandudno - tîm y mae eu proffesiynoldeb yn parhau i achub bywydau ar y môr ac ar hyd ardaloedd arfordirol fel Pen y Gogarth a Thrwyn y Fuwch.

“Wrth i’r niferoedd mwyaf erioed o bobl ymweld â’n glannau dros y blynyddoedd diwethaf, mae llwyni naturiol Aber Afon Conwy - ar adegau - wedi gofyn am ymdrechion achub di-rif gyda’n Gwylwyr y Glannau yn cydlynu eu hymatebion yn ddigyffro, rhywbeth sy’n destun balchder lleol.

“Mae’r deyrnged hon yn agos iawn i’n calonnau wrth i’r gymuned gofio marwolaeth Carl McGrath, Ross Ballantine ac Alan Minard flwyddyn ar ôl suddo’r Nicola Faith. Roedd gwaith Gwylwyr y Glannau Ei Mawrhydi, law yn llaw â chriwiau ymroddedig RNLI, yn ystod y broses chwilio yn aros yn y cof am byth.” 

Y mis diwethaf, dechreuodd Gwylwyr y Glannau EM weithredu ei rwydwaith radio chwilio ac achub newydd sydd wedi’i ddiweddaru ac sy’n defnyddio technoleg ffeibr. Mae mwy na £175 miliwn wedi’i fuddsoddi i uwchraddio rhwydwaith radio cenedlaethol Gwylwyr y Glannau ymhob un o’u 165 safle dros y ddwy flynedd nesaf.

DIWEDD  

Ffoto: gan Jack B ar Unsplash

You may also be interested in

J

Police Leaders Call for Non-Hate Crime Laws to be Scrapped

Tuesday, 23 December, 2025
Police leaders have called for non-hate crime laws to be scrapped and replaced with a more common-sense approach. Non-hate crime incidents are defined as behaviour motivated by hostility or prejudice but which does not constitute a criminal offence.

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • European News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Speeches in Parliament
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders MS/AS
  • Polisi Preifatrwydd a Diogelu Data / Data Protection and Privacy Policy
Promoted by Janet Finch-Saunders of 29 Madoc Street, Llandudno, Conwy, LL30 2TL | Hyrwyddwyd gan Janet Finch-Saunders, 29 Stryd Madog, Llandudno, Conwy, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus

Copyright 2025 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree