Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • About/Am Janet
  • News/Newyddion
  • Contributions/Cyfraniadau
  • Campaigns/Ymgyrchoedd
  • Contact/Manylion Cyswllt
  • Vote from home / Pleidleisiwch o adra
  • Save Welsh Farming / Achub Amaeth Cymru
Site logo

AS Aberconwy yn annog pobl i gymryd rhan yn ymgynghoriad Awel y Môr

  • Tweet
Tuesday, 17 August, 2021
  • Local News
Janet Finch-Saunders MS

Mae Janet Finch-Saunders AS – Aelod o’r Senedd Aberconwy – wedi annog etholwyr i gymryd rhan mewn ymgynghoriad cyhoeddus sydd wedi’i drefnu ynghylch y cynigion i ddatblygu Fferm Wynt Alltraeth Awel y Môr oddi ar arfordir y Gogledd. Cynhelir yr ymgynghoriad rhwng 31 Awst 2021 a 11 Hydref 2021. Bwriedir cynnal yr ymgynghoriad drwy ddull hybrid, gyda phlatfform arddangos rhithwir, i’w gyrchu drwy wefan y prosiect, ac ymgynghoriadau wyneb yn wyneb dethol mewn mannau awyr agored ledled y rhanbarth.

Wrth annog etholwyr i gofrestru eu safbwyntiau, dywedodd Janet:

“Gan gydnabod pryderon eang etholwyr lleol o ran sgil effeithiau posibl y prosiect hirdymor hwn, rwy’n falch o gael annog etholwyr i gofrestru eu barn cyn 11 Hydref 2021 er mwyn iddynt gael eu rhoi ar waith fel rhan o gynlluniau’r prosiect at y dyfodol.

“Bydd gan ynni adnewyddadwy rôl ganolog yn yr adferiad gwyrdd ar ôl y Coronafeirws, ond bydd yn rhaid cydbwyso cynnydd gyda phryderon amlwg. Dyna pam fo mod wedi bod yn galw ers amser ar Lywodraeth Cymru i adolygu ei pholisïau mewn perthynas â chynllunio gofodol morol, gan ofyn i swyddogion weithio gyda rhanddeiliaid i gasglu’r data angenrheidiol i gadarnhau eu heffaith ar yr amgylchedd.

“Gyda’r posibilrwydd y bydd y tyrbinau mor uchel â Thŵr Eiffel ac yn cael effaith ar y boblogaeth leol o adar y môr, bydd cynllunio gofodol yn elfen allweddol o’m sylwadau i ymgynghoriad Awel y Môr. Gall yr ymgynghoriadau hyn gael effaith sylweddol ar gynlluniau ac felly rwy’n croesawu’r cyfle hwn ar gyfer ymgysylltu â’r gymuned.”

DIWEDD

Ffoto: Janet Finch-Saunders AS 

You may also be interested in

J

£1bn NHS Repairs Backlog Sparks Concerns Over North Wales Hospitals / Ôl-groniad atgyweiriadau'r GIG gwerth £1bn yn sbarduno pryderon am ysbytai’r Gogledd

Tuesday, 7 April, 2026
Janet Finch-Saunders MS has raised serious concerns about the condition of NHS buildings across North Wales, following figures released from NHS Wales Shared Services Partnership. The ‘high’ risk backlog has risen 71% in four years, according to NHS Wales Shared Services Partnership.

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • European News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Speeches in Parliament
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS ABERCONWY

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders MS/AS
  • Polisi Preifatrwydd a Diogelu Data / Data Protection and Privacy Policy
Promoted by Janet Finch-Saunders of 29 Madoc Street, Llandudno, Conwy, LL30 2TL | Hyrwyddwyd gan Janet Finch-Saunders, 29 Stryd Madog, Llandudno, Conwy, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus

Copyright 2026 Janet Finch-Saunders MS/AS. All rights reserved.
Powered by Bluetree