Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • About/Am Janet
  • News/Newyddion
  • Contributions/Cyfraniadau
  • Campaigns/Ymgyrchoedd
  • Contact/Manylion Cyswllt
  • Vote from home / Pleidleisiwch o adra
  • Save Welsh Farming / Achub Amaeth Cymru
Site logo

AS Aberconwy yn annog Llywodraeth Cymru i sicrhau ei bod yn cadw at amserlen pigiad llygaid

  • Tweet
Wednesday, 22 September, 2021
  • Local News
Janet Finch-Saunders MS

Mae Janet Finch-Saunders AS – Aelod o’r Senedd Aberconwy - wedi defnyddio ymyriad yn ystod Cyfarfod Llawn y Senedd i danlinellu'r angen i gleifion sy'n dioddef o ddirywiad y maciwla sy'n gysylltiedig ag oedran (AMD) gwlyb gael y pigiadau misol sydd wedi'u rhagnodi iddynt.

Mae AMD gwlyb yn datblygu pan fydd pibellau gwaed annormal yn tyfu i'r maciwla. Mae'r rhain yn gollwng gwaed neu hylif a all arwain at golli golwg canol y maes yn gyflym iawn. Gall AMD gwlyb ddatblygu'n sydyn iawn ond mae modd ei drin os caiff ei ddal yn gyflym.

Mae cyffuriau'n cael eu chwistrellu i'r llygad i atal twf y pibellau gwaed annormal, fel arfer drwy ddos o dri phigiad unwaith y mis am dri mis.

Wrth sôn am yr angen am amserlen lem, dywedodd Janet: 

“Rwy'n poeni fwyfwy am yr adroddiadau gan nifer o etholwyr sy'n dioddef o ddirywiad y maciwla gwlyb ac sydd fel arfer yn cael pigiad bob mis, sy’n dweud eu bod yn gorfod aros am eu pigiadau. Yn ystod pandemig Covid-19, fe wnaeth rai o'r rhain ostwng i bob chwe wythnos.

“Fodd bynnag, mae rhai bellach yn gorfod aros hyd at dri mis i'w cael, gan beri risg gynyddol i'w golwg. Yn wir, roeddwn yn dechrau derbyn adroddiadau bod rhai ymgynghorwyr hyd yn oed yn cyfeirio cleifion ata i er mwyn tynnu sylw at y sefyllfa anffodus hon y gellid bod wedi ei hosgoi.

“Dyma pam mae'n hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn anfon canllawiau ar frys i'n Byrddau Iechyd fel bod cleifion yn derbyn y pigiadau hollbwysig hyn ar amserlen gyson. Yn wir, os yw'r pigiadau hyn fod i gael eu rhoi bob mis, yna dylai'r cleifion hynny eu derbyn bob mis.”  

DIWEDD 

Nodiadau i Olygyddion:  

  • Yn ôl y Macular Society, mae'r clefyd yn effeithio ar bobl mewn ffyrdd gwahanol. Mae'r symptomau'n cynnwys bylchau neu smotiau tywyll sy'n ymddangos yn eich golwg, lliwiau'n pylu, neu eiriau'n diflannu wrth ddarllen. Gall llinellau syth fel fframiau drysau a lampau hefyd ymddangos yn niwlog neu'n gam.
  • Mae trawsgrifiad o gyfraniad Janet ar gael trwy glicio yma. 

Llun: Janet Finch-Saunders AS 

You may also be interested in

J

Police Leaders Call for Non-Hate Crime Laws to be Scrapped

Tuesday, 23 December, 2025
Police leaders have called for non-hate crime laws to be scrapped and replaced with a more common-sense approach. Non-hate crime incidents are defined as behaviour motivated by hostility or prejudice but which does not constitute a criminal offence.

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • European News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Speeches in Parliament
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders MS/AS
  • Polisi Preifatrwydd a Diogelu Data / Data Protection and Privacy Policy
Promoted by Janet Finch-Saunders of 29 Madoc Street, Llandudno, Conwy, LL30 2TL | Hyrwyddwyd gan Janet Finch-Saunders, 29 Stryd Madog, Llandudno, Conwy, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus

Copyright 2025 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree