Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • About/Am Janet
  • News/Newyddion
  • Contributions/Cyfraniadau
  • Campaigns/Ymgyrchoedd
  • Contact/Manylion Cyswllt
  • Vote from home / Pleidleisiwch o adra
  • Save Welsh Farming / Achub Amaeth Cymru
Site logo

AS Aberconwy yn annog adolygiad i ddiogelu ffermwyr tenant lleol

  • Tweet
Wednesday, 17 November, 2021
  • Local News

Wrth gyflwyno cwestiwn i Weinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru Llywodraeth Cymru, mae Janet Finch-Sunders, yr Aelod o'r Senedd dros Aberconwy, wedi annog y Llywodraeth ddatganoledig i gynnal adolygiad o'r camau y gellir eu rhoi ar waith i ddiogelu ffermydd tenantiaid ymhellach, trwy ganiatáu contractau hirach fel ffordd o gefnogi gwaith rhagweithiol ar wella iechyd pridd a phlannu coed. 

Mae bron i 30% o dir amaethyddol Cymru dan ofal tenantiaid, gyda'r daliadau hyn yn gyfle hollbwysig i ffermwyr ifanc wrth iddynt ddechrau yn y diwydiant. Yn ddiweddar, ysgrifennodd Janet i bapur newydd The National gan amlinellu'r ffaith bod plannu coed i wrthbwyso carbon yn gwthio ffermwyr Cymru allan o'r diwydiant. 

Wrth siarad y tu allan i'r Siambr, dywedodd Janet: 

“Fel y gall llawer o ffermwyr a rhanddeiliaid amaethyddol dystio, mae gallu tenantiaid i gynllunio yn y tymor hir ar gyfer eu teuluoedd a rhoi arferion cynaliadwy ar waith yn cael ei danseilio gan y rheolau. Yn y rhan fwyaf o achosion, gwyddom hefyd nad yw ffermwyr tenant yn gallu plannu coed oherwydd cymalau cyfyngol yn eu cytundebau. 

“Canfu strategaeth Tyfu Gyda'n Gilydd NFU Cymru y gallai polisïau sy'n hyrwyddo plannu coed effeithio ar denantiaethau tymor byr, yn enwedig os yw'r cyllid a gynigir yn fwy na lefelau cymorth ar gyfer tir amaethyddol, a gallai hyn beri bod landlordiaid yn terfynu contractau. 

“O dderbyn bod sector tenantiaid ffyniannus yn hanfodol ar gyfer ffermio cynhyrchiol a blaengar, dylai Llywodraeth Cymru adolygu'r camau sydd eu hangen a chaniatáu mwy o hyblygrwydd, i ymestyn contractau fel y gellir rhoi arferion pridd cynaliadwy ar waith, ac er mwyn osgoi agwedd negyddol arall ar bolisïau plannu coed.” 

Yn ddiweddar, mae Mrs Finch-Saunders wedi plannu coeden yn yr etholaeth er mwyn codi ymwybyddiaeth o'r strategaeth Tyfu Gyda'n Gilydd. 

DIWEDD 

Llun: gan Spencer Pugh ar Unsplash

You may also be interested in

Janet

Calls to Protect Penrhos Coastal Park From Huge Development

Wednesday, 18 March, 2026
Janet Finch-Saunders, the Welsh Conservative Shadow Cabinet Secretary for Climate Change and the Environment, wrote to the Counsel General and Minister for Delivery, Julie James MS, calling for the Penrhos Coastal Park to be preserved. Janet commented: “There are significant concerns about

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • European News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Speeches in Parliament
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS ABERCONWY

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders MS/AS
  • Polisi Preifatrwydd a Diogelu Data / Data Protection and Privacy Policy
Promoted by Janet Finch-Saunders of 29 Madoc Street, Llandudno, Conwy, LL30 2TL | Hyrwyddwyd gan Janet Finch-Saunders, 29 Stryd Madog, Llandudno, Conwy, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus

Copyright 2026 Janet Finch-Saunders MS/AS. All rights reserved.
Powered by Bluetree