Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • About/Am Janet
  • News/Newyddion
  • Contributions/Cyfraniadau
  • Campaigns/Ymgyrchoedd
  • Contact/Manylion Cyswllt
  • Vote from home / Pleidleisiwch o adra
  • Save Welsh Farming / Achub Amaeth Cymru
Site logo

AS Aberconwy yn amlinellu'r angen am addysg am symptomau gwenwyn carbon monocsid

  • Tweet
Monday, 29 November, 2021
  • Local News

Mae'r Aelod o Senedd Cymru dros Aberconwy – Janet Finch-Saunders AS – wedi gofyn am eglurder gan Lywodraeth Cymru ynglŷn â’r camau y mae'n eu cymryd i addysgu pobl ymhellach am arwyddion a symptomau gwenwyn carbon monocsid. Mae'r ymyrraeth yn dilyn Wythnos Ymwybyddiaeth o Garbon Monocsid, sef yr ymgyrch flynyddol dan arweiniad y Grŵp Hollbleidiol Seneddol ar Garbon Monocsid, sy'n ceisio codi ymwybyddiaeth o garbon monocsid. 

Mae carbon monocsid yn nwy gwenwynig sy'n cael ei gynhyrchu pan fydd tanwydd yn llosgi'n aneffeithlon. Yn ôl ymgyrch United Against CO, y ffynonellau mwyaf cyffredin yw boeleri diffygiol, tanau nwy, ffyrnau, a stofiau tanwydd solet. Mae dros 200 o bobl yn mynd i'r ysbyty yn y DU bob blwyddyn oherwydd gwenwyn carbon monocsid tybiedig, sy'n arwain at tua 50 o farwolaethau. 

Mewn Cwestiwn Ysgrifenedig i Weinidog Addysg Llywodraeth Cymru, gofynnodd Janet: 

“A wnaiff y Gweinidog gadarnhau pa gamau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cymryd i adolygu sut gall ysgolion addysgu teuluoedd am arwyddion a symptomau gwenwyn carbon monocsid? 

Ar ôl ymgyrchu am flynyddoedd lawer i gryfhau diogelwch, dywedodd Janet: 

“Yn aml, mae symptomau gwenwyn carbon monocsid yn cael eu camgymryd am afiechydon tebyg i'r ffliw, fel cur pen sy'n deillio o densiwn, pendro, cyfog, a phoen stumog. Er mwyn mynd i'r afael â'r lladdwr tawel hwn, nad oes modd ei flasu na'i arogli, dylem sicrhau bod pob cenhedlaeth yng Nghymru yn deall y wybodaeth am yr arwyddion a'r symptomau hyn. 

“Wrth reswm, mae angen cyflwyno'r addysg hon ar y cyd â chamau rhagweithiol i ganfod carbon monocsid. Mae larymau carbon monocsid wedi esblygu i fod yn ddyfeisiau diogelwch hanfodol, gan wneud gwaith monitro i amddiffyn pobl rhag y nwy gwenwynig. 

“Dylai pob eiddo sydd â chyfarpar llosgi tanwydd gael larwm CO, felly rwy'n annog trigolion i ddarllen tudalennau cyngor ardderchog Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru os oes ganddynt unrhyw gwestiynau cyn prynu a gosod larwm.” 

Un o symptomau mwyaf cyffredin gwenwyn carbon monocsid ysgafn yw cur pen math tensiwn, yn ogystal â phendro, cyfog, blinder a phoen stumog. Mae arwyddion eraill yn cynnwys diffyg anadl, gan arwain at gwympo neu golli ymwybyddiaeth.  

Wrth osod larwm carbon monocsid, dylai trigolion osgoi ei osod mewn man caeedig â rhwystrau posibl. Yn yr un modd, ni ddylid gosod larwm yn uniongyrchol uwchben sinc neu wrth ymyl drws, ffenestr, ffan echdynnu, awyrell neu agoriad awyru tebyg.  

DIWEDD 

Llun: gan KWON JUNHO ar Unsplash

You may also be interested in

J

Police Leaders Call for Non-Hate Crime Laws to be Scrapped

Tuesday, 23 December, 2025
Police leaders have called for non-hate crime laws to be scrapped and replaced with a more common-sense approach. Non-hate crime incidents are defined as behaviour motivated by hostility or prejudice but which does not constitute a criminal offence.

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • European News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Speeches in Parliament
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders MS/AS
  • Polisi Preifatrwydd a Diogelu Data / Data Protection and Privacy Policy
Promoted by Janet Finch-Saunders of 29 Madoc Street, Llandudno, Conwy, LL30 2TL | Hyrwyddwyd gan Janet Finch-Saunders, 29 Stryd Madog, Llandudno, Conwy, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus

Copyright 2025 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree