Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • About/Am Janet
  • News/Newyddion
  • Contributions/Cyfraniadau
  • Campaigns/Ymgyrchoedd
  • Contact/Manylion Cyswllt
  • Vote from home / Pleidleisiwch o adra
  • Save Welsh Farming / Achub Amaeth Cymru
Site logo

AS Aberconwy i gynnal cyfarfod bwrdd crwn i’r Sector Lletygarwch yn sgil pryderon am yr adferiad

  • Tweet
Wednesday, 7 July, 2021
  • Local News

Cyn dadl y Senedd ar fusnesau bach a thwristiaeth heddiw, mae’r Aelod o Senedd Cymru dros Aberconwy – Janet Finch-Saunders AS – wedi cyhoeddi y bydd yn cynnal cyfarfod digidol ar gyfer rhanddeiliaid lletygarwch i adolygu pa gymorth wedi’i dargedu sydd ei angen i helpu gydag adferiad y sector ac i fynd i’r afael â materion hirdymor fel prinder staff lletygarwch. 

Cynhelir y cyfarfod Microsoft Teams rhithwir ar ddydd Mercher 11 Awst 2021, rhwng 10:00am a 11:30am. Bydd rhanddeiliaid yn derbyn gwahoddiad swyddogol cyn bo hir.

Wrth gynnig sylwadau am y cyfarfod bwrdd crwn, dywedodd Janet: 

“Mae’r diwydiant lletygarwch yn hanfodol i ffyniant Cymru, gan fod o fudd i gynhyrchwyr ar draws y gadwyn gyflenwi a denu ymwelwyr sy’n dod â budd economaidd rhagamcanol i Sir Conwy o tua £900 miliwn. Maen nhw hefyd yn asgwrn cefn i economi Gogledd Cymru, gan ddarparu cyfleoedd gwaith gwerth chweil i lawer o deuluoedd lleol. 

“Ond yn hytrach na chefnogi sector lletygarwch sy’n dioddef eisoes, mae Llywodraeth Cymru wedi ffafrio archwilio cyflwyno treth dwristiaeth. Nid oes unrhyw amheuaeth y byddai hyn yn drychinebus i’r diwydiant ac y byddai’n cael effaith ddwys ar nifer yr ymwelwyr â’r ardal.

“Mae’n rhaid i Fae Caerdydd geisio newid cyfeiriad y sgwrs am ein sector lletygarwch, gan gydnabod yr anawsterau a oedd yn cael eu teimlo hyd yn oed cyn y pandemig, a dyna pam rwyf i a’m cyd-Aelodau o rengoedd y Ceidwadwyr Cymreig yn galw am ddarparu grantiau i fusnesau twristiaeth er mwyn cynnal toriad Llywodraeth y DU mewn TAW i 5% tan fis Ebrill 2022. 

“Ond mae’n rhaid rhoi cymorth hefyd i fynd i’r afael â materion hirsefydlog eraill, fel y prinder staff sy’n cael ei wynebu gan lawer o gwmnïau lletygarwch, a fydd yn un o gonglfeini’r trafod yn ystod fy nghyfarfod bwrdd crwn rhithwir i randdeiliaid. Bydd hefyd yn gyfle i drafod ein cynigion i greu pecyn adfer ar gyfer trefi glan môr a threfi marchnad drwy Gronfa Trefi Twristiaeth i helpu i wastadu ein cymunedau. 

“Rwy’n edrych ymlaen at gyfarfod â’r rhanddeiliaid hyn ac ymrwymo i dynnu sylw at y pryderon a fydd yn cael eu mynegi.” 

DIWEDD 

You may also be interested in

Backlogs for Dermatology, Endoscopy, and Hernia Treatments Must be Addressed

Tuesday, 27 January, 2026
Backlogs for dermatology, endoscopy, and hernia treatments must be addressed. (27/01/2026)

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • European News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Speeches in Parliament
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders MS/AS
  • Polisi Preifatrwydd a Diogelu Data / Data Protection and Privacy Policy
Promoted by Janet Finch-Saunders of 29 Madoc Street, Llandudno, Conwy, LL30 2TL | Hyrwyddwyd gan Janet Finch-Saunders, 29 Stryd Madog, Llandudno, Conwy, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus

Copyright 2026 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree