Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • About/Am Janet
  • News/Newyddion
  • Contributions/Cyfraniadau
  • Campaigns/Ymgyrchoedd
  • Contact/Manylion Cyswllt
  • Vote from home / Pleidleisiwch o adra
  • Save Welsh Farming / Achub Amaeth Cymru
Site logo

AS Aberconwy ar daith bwyd a diod wrth i gynnydd mewn twristiaeth gael ei gofnodi

  • Tweet
Friday, 13 August, 2021
  • Local News
Janet Finch-Saunders MS

Mae’r Gogledd wedi profi haf sy’n torri record o ran nifer yr ymwelwyr, meddai cymdeithas dwristiaeth y rhanbarth. Mewn sylwadau a wnaed i’r BBC, dywedodd cadeirydd Twristiaeth Gogledd Cymru, Chris Frost, fod nifer y teithiau dydd ac aros dros nos ar i fyny, gyda phobl yn archebu am gyfnodau hirach nag arfer. 

Croesawyd y newyddion gan Janet Finch-Saunders AS, yr Aelod o’r Senedd dros Aberconwy, sydd yr wythnos hon wedi bod ar daith bwyd a diod o amgylch yr etholaeth, gan dynnu sylw at y busnesau unigryw seiliedig ar brofiad sy’n helpu i ddenu ymwelwyr i’r rhanbarth. 

Ymhlith y llefydd y bu’n ymweld â nhw roedd gwesty Plas Maenan, caffi Tu Hwnt i’r Bont yn Llanrwst, bwyty Groegaidd White Tower yn Llandudno, a thafarn Tŷ Gwyn yn Ro-wen. Ddoe, cynigiodd yr Aelod lwncdestun i lwyddiant Gwinllan Conwy hefyd. 

Wrth groesawu’r cynnydd mewn ymwelwyr, dywedodd Janet: 

“Mae’r cynnydd a welwyd yn nifer yr ymwelwyr i’r Gogledd i’w groesawu’n fawr, gan alluogi ein busnesau lletygarwch a thwristiaeth gwych i ddod yn ôl yn gryfach wedi 18 mis heriol iawn, a gobeithio y bydd yn gam cadarnhaol ar gyfer y tymhorau gwyliau i ddod. 

“Gogledd Cymru yw gwir gartref gwyliau profiad, gyda fy etholaeth i yn Aberconwy yn cynnig cymysgedd gwych ac unigryw o anturiaethau arfordirol a mynyddig, yn ogystal â chyfleusterau bwyta o ansawdd uchel. Cadarnhawyd hynny gan fy nhaith fwyd a diod ddiweddaraf o gwmpas y rhanbarth, gan ymweld â’n trefi a’n pentrefi. 

“Ar ôl cyfarfod rhithwir gyda chynrychiolwyr o’r sectorau lletygarwch a llety'r wythnos diwethaf, roeddwn yn awyddus i brofi eu gwaith aruthrol ar y rheng flaen. Mae’r daith hon wedi dangos yn glir fod ein busnesau lleol yn ymdrechu’n galed, er gwaethaf heriau staffio, i sicrhau bod ymwelwyr a thrigolion yn gallu cael profiad pleserus a chofiadwy.”

DIWEDD

Llun: Janet Finch-Saunders AS/MS a’r Cynghorydd Dan Worsley

You may also be interested in

Backlogs for Dermatology, Endoscopy, and Hernia Treatments Must be Addressed

Tuesday, 27 January, 2026
Backlogs for dermatology, endoscopy, and hernia treatments must be addressed. (27/01/2026)

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • European News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Speeches in Parliament
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders MS/AS
  • Polisi Preifatrwydd a Diogelu Data / Data Protection and Privacy Policy
Promoted by Janet Finch-Saunders of 29 Madoc Street, Llandudno, Conwy, LL30 2TL | Hyrwyddwyd gan Janet Finch-Saunders, 29 Stryd Madog, Llandudno, Conwy, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus

Copyright 2026 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree