
In a Freedom of Information request Betsi Cadwaladr University Health Board provided information that showed over the past two years 3,543 inpatients and 4,960 outpatients died whilst on a treatment waiting list.
It is currently unknown if the patients would have survived should they have received the treatment. Clarity is being sought on this point.
Janet Finch-Saunders, the Member of Welsh Parliament for Aberconwy, was saddened to learn of these figures.
Commenting on the figures produced in the FOI, Janet said:
“These figures are deeply concerning and highlight the significant failings of Betsi Cadwaladr University Health Board, Welsh Government, and decade long special measures.
“When considering that over 80,000 pathways are waiting longer than 36 weeks here in the North, and that around 6,106 are waiting two years for treatment, it is clear that the waiting time crisis is completely out of control.
“Along with the number of patients dying on the waiting list, 965 patients were dropped off as a result of going privately over the last two years.
“The First Minister has made it a personal mission to improve waiting times. She has failed. She should resign.
“The Health Board is failing to improve waiting times. The management has failed. Executives should be cleared out and a new, fresh team put in place.
“Those still waiting horrendously long times, should they be willing to travel, should be offered treatment in hospitals elsewhere in the United Kingdom”.
ENDS
Photo: Janet Finch-Saunders MS/AS
Mewn cais Rhyddid Gwybodaeth, darparwyd gwybodaeth gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn dangos y bu farw 3,543 o gleifion mewnol a 4,960 o gleifion allanol yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf tra roedden nhw ar restr aros am driniaeth
Dydyn ni ddim yn gwybod ar hyn o bryd a fyddai'r cleifion wedi goroesi pe baent wedi derbyn y driniaeth. Gofynnwyd am eglurhad pellach ar y pwynt hwnnw.
Roedd Janet Finch-Saunders, yr Aelod o’r Senedd dros Aberconwy, yn drist o glywed y ffigurau hyn.
Wrth sôn am y ffigurau a gynhyrchwyd yn y ddogfen Rhyddid Gwybodaeth, dywedodd Janet:
"Mae'r ffigurau hyn yn destun pryder mawr ac yn tynnu sylw at fethiannau sylweddol Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Llywodraeth Cymru, a’r degawd hir o fesurau arbennig.
"O ystyried bod y cyfnod aros ar dros 80,000 o lwybrau yn fwy na 36 wythnos yn y Gogledd, a bod tua 6,106 yn aros dwy flynedd am driniaeth, mae'n amlwg bod yr argyfwng amseroedd aros allan o reolaeth yn llwyr.
"Ynghyd â nifer y cleifion a fu farw ar y rhestr aros, cafodd 965 o gleifion eu gollwng o’r rhestr ar ôl mynd yn breifat yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf.
"Mae'r Prif Weinidog wedi ei gwneud yn genhadaeth bersonol i wella amseroedd aros. Ond mae hi wedi methu. Dylai ymddiswyddo.
"Mae’r Bwrdd Iechyd yn methu â gwella amseroedd aros. Mae'r rheolwyr wedi methu. Dylid cael gwared â’r swyddogion gweithredol a rhoi tîm newydd, ffres yn eu lle.
"Os yw’r rhai sy'n dal i aros amseroedd ofnadwy o hir yn barod i deithio, dylent gael cynnig triniaeth mewn ysbytai eraill o gwmpas y Deyrnas Unedig".
DIWEDD
Llun: Janet Finch-Saunders AS
