The Welsh Parliament is the democratically elected body that represents the interests of Wales and its people, makes laws for Wales, agrees Welsh taxes and holds the Welsh Government to account. This section explains more about the administration of the Parliament, including how it works, the Parliament’s achievements, and the history of the institution and its estate.
Senedd Cymru yw’r corff a etholwyd yn ddemocrataidd sy’n cynrychioli buddiannau Cymru a’i phobl, yn creu deddfau ar gyfer Cymru, yn cytuno ar drethi Cymru ac yn dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif. Mae’r adran hon yn egluro mwy am y weinyddiaeth y Senedd, gan gynnwys sut mae’n gweithio, cyflawniadau’r Senedd a hanes y sefydliad a’i stad.
What is the role of the Senedd?
Beth yw rôl y Senedd?
The Welsh Parliament has four key roles: representing Wales and its people; making laws for Wales; agreeing Welsh taxes and holding the Welsh Government to account. Want to find out more? Click the link above.
Mae gan y Senedd bedair swyddogaeth allweddol: cynrychioli buddiannau Cymru a’i phobl, creu deddfau ar gyfer Cymru, cytuno ar drethi yng Nghymru a dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif. Am gael gwybod mwy? Am ragor o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen uchod.
Governance of Wales – who is responsible for what?
Llywodraethu Cymru - pwy sy'n gyfrifol am beth?
The Senedd makes laws for Wales on specific subject areas. Outside these areas, different bodies (like local authorities or the UK government) make laws that apply to Wales. Find out who is responsible for what in this section. To learn more, please click the link above.
Mae’r Senedd yn deddfu ar gyfer Cymru mewn meysydd pwnc penodol. Y tu hwnt i’r meysydd hyn mae cyrff gwahanol (fel awdurdodau lleol neu lywodraeth y DU), yn creu deddfau sy’n gymwys i Gymru. Gallwch weld pwy sy’n gyfrifol am beth yn yr adran hon. Cliciwch ar y ddolen i ganfod mwy.
The history of Welsh devolution / Hanes datganoli yng Nghymru
Though the Assembly was only formed in 1999, the history of the movement towards political devolution in Wales dates back to 1886. In May 2020, the National Assembly for Wales was formally renamed to Senedd Cymru/Welsh Parliament. Click the link above for more information.
Er mai dim ond yn 1999 y sefydlwyd y Cynulliad, mae hanes y daith tuag at ddatganoli gwleidyddol yng Nghymru yn dyddio’n ôl i 1886. Ym mis Mai 2020, ailenwyd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn Senedd Cymru/Welsh Parliament. Cliciwch ar y ddolen am ragor o wybodaeth.
Daily business / Busnes dyddiol
Members of the Senedd undertake their tasks of representing Wales and its people, making laws for Wales and holding the Welsh Government to account in a number of ways. These include attending Plenary debates and sitting on Parliamentary Committees to discuss specific issues. Click the link to find out more.
Mae Aelodau'r Senedd yn ymgymryd â’u tasgau o gynrychioli Cymru a’i phobl, o greu deddfau ar gyfer Cymru ac o ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif mewn sawl ffordd. Mae eu tasgau’n cynnwys mynd i drafodaethau’r Cyfarfod Llawn ac eistedd ar Bwyllgorau’r Senedd er mwyn trafod materion penodol. Cliciwch ar y ddolen am ragor o wybodaeth.
Elections and voting / Etholiadau a phleidleisio
Welsh Parliament elections for the 60 seats in the Senedd take place every five years. Click the link above for more information on how Members are elected, as well as details of past elections.
Cynhelir etholiadau Senedd Cymru ar gyfer y 60 sedd yn y Senedd bob pum mlynedd. Cliciwch ar y ddolen i ganfod mwy am sut yr etholir Aelodau, ynghyd â manylion etholiadau’r gorffennol.