Campaign Success: Funding for Active Travel Route Between Dolgarrog Railway Station and Dolgarrog Secured / Ymgyrch lwyddiannus: Sicrhau cyllid ar gyfer llwybr teithio llesol rhwng Gorsaf Reilffordd Dolgarrog a Dolgarrog

Conwy County Borough Council have written to Janet Finch-Saunders MS/AS advising that funding from the Welsh Government’s Active Travel Fund for improvements to the existing Public Rights of Way, which connects Dolgarrog Railway Station to the B5106 has been secured.

The works are to be undertaken this financial year.

The Local Authority is currently working on access agreements with interested landowners and will be aiming to undertake a public engagement exercise soon. Once the access agreements are in place, they will push forward with a procurement and construction phase programme.

Commenting on the news that funding is in place for an active travel route to the railway station this year, said: 

“Since the horrendous decision by Welsh Water to permanently close Dolgarrog Bridge, I have been pleased to lead the group of stakeholders who have succeeded to convince the water company to make a massive U-turn, and secure a £1.9m investment!

“As part of that stakeholder group it was a pleasure to work with representatives of both Dolgarrog Community Council and Conwy County Borough Council. By working together we have delivered for our community.

“In fact, I have kept up the pressure and am delighted that funding has been secured to build an active travel route between Dolgarrog and the railway station this financial year. A special thanks goes to the Local Authority officials who submitted the application and are working on the plans going forward.

“Whilst my understanding is that this phase of the development will see the route reach Dolgarrog by the old Lord Newborough pub, there remains and ambition to develop a route along Clark Street in the future, but that would require further funding.

“The most import point of all is that the bridge, which following our united community campaign, Welsh Water has thankfully invested significantly in, will now have high standard accessible paths leading to it. This is excellent news!”

ENDS

 

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi ysgrifennu at Janet Finch-Saunders AS yn ei chynghori bod cyllid gan Gronfa Teithio Llesol Llywodraeth Cymru ar gyfer gwelliannau i'r Hawliau Tramwy Cyhoeddus presennol, sy'n cysylltu Gorsaf Reilffordd Dolgarrog â'r B5106, wedi'i sicrhau.

Bydd y gwaith yn cael ei wneud yn ystod y flwyddyn ariannol hon.

Mae'r Awdurdod Lleol ar hyn o bryd yn gweithio ar gytundebau mynediad gyda thirfeddianwyr sydd â buddiant a bydd yn ceisio cynnal ymarfer ymgysylltu â'r cyhoedd yn fuan. Unwaith y bydd y cytundebau mynediad ar waith, byddant yn bwrw rhagddi â rhaglen gaffael ac adeiladu.

Gan gyfeirio at y newyddion bod cyllid yn ei le ar gyfer llwybr teithio llesol i'r orsaf reilffordd

"Ers y penderfyniad erchyll gan Dŵr Cymru i gau Pont Dolgarrog yn barhaol, rydw i wedi bod yn falch o arwain y grŵp o randdeiliaid sydd wedi llwyddo i berswadio'r cwmni dŵr i wneud tro pedal enfawr, a sicrhau buddsoddiad o £1.9m!

"Fel rhan o'r grŵp rhanddeiliaid hwnnw, roedd hi’n bleser gweithio gyda chynrychiolwyr o Gyngor Cymuned Dolgarrog a Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy. Trwy weithio gyda'n gilydd rydyn ni wedi cyflawni i'n cymuned.

"Mewn gwirionedd, rydw i wedi cadw'r pwysau ac rwy'n falch iawn bod cyllid wedi'i sicrhau i adeiladu llwybr teithio llesol rhwng Dolgarrog a'r orsaf rheilffordd y flwyddyn ariannol hon. Diolch yn arbennig i swyddogion yr Awdurdod Lleol a gyflwynodd y cais ac sy’n gweithio ar y cynlluniau.

"Er y deallaf y bydd y cam hwn o'r datblygiad yn gweld y llwybr yn cyrraedd Dolgarrog ger hen dafarn y Lord Newborough, mae yna uchelgais i ddatblygu llwybr ar hyd Clark Street yn y dyfodol, ond byddai angen cyllid pellach ar gyfer hynny.

"Y pwynt pwysicaf oll yw y bydd gan y bont, y mae Dŵr Cymru wedi buddsoddi'n sylweddol ynddi yn dilyn ein hymgyrch gymunedol unedig, bellach lwybrau hygyrch o safon uchel yn arwain ati. Newyddion ardderchog!".

DIWEDD